Trydydd Cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol Undebau Cyfiawnder, a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2015

 

Yn bresennol: Julie Morgan AC, Leanne Wood AC, Rhodri Glyn Thomas AC, Aled Roberts AC, Mike Hedges AC, Colin Paltry (staff cymorth Lindsay Whittle AC), Vicki Evans (staff cymorth Christine Chapman AC), Sian Mile (staff cymorth Julie Morgan AC), Robert Jones (Prifysgol Caerdydd), Tracey Worth (NAPO), Jane Foulner (NAPO), Emily Cannon (UNSAIN), Huw Price (UNSAIN), Kay Powell (Cymdeithas y Cyfreithwyr) a John Hancock (Cymdeithas y Swyddogion Carchar).

 

1.             CROESO

 

Croesawodd Julie Morgan AC (Gogledd Caerdydd) bawb i drydydd cyfarfod y Grŵp Cyfiawnder a gofynnodd i bawb gyflwyno eu hunain. Oherwydd cyfyngiadau amser, gofynnodd Julie am ganiatâd y grŵp i droi’n syth at ein siaradwr oherwydd bod yr ACau yn awyddus i glywed ganddo.

 

2.            SIARADWR - JOHN HANCOCK (CYMDEITHAS Y SWYDDOGION CARCHAR)

 

Cyflwynodd John ei hun i’r grŵp fel cynrychiolydd Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol Cymdeithas y Swyddogion Carchar. Aeth ymlaen i ddweud y bydd yn ymddeol ym mis Mai. Fodd bynnag, bydd y cynrychiolydd a fydd yn cymryd ei le yn mynychu cyfarfodydd y grŵp yn ei le. Dywedodd ei fod eisiau rhoi trosolwg o anawsterau presennol ei aelodau. Dywedodd Chris Grayling, yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, yn ddiweddar nad oedd yw carchardai mewn argyfwng. Mewn gwirionedd, mae’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr wedi creu storm berffaith. Maent wedi cau carchardai ac wedi diswyddo swyddogion carchar. Roeddent wedi cymryd yn ganiataol y byddai niferoedd carcharorion yn lleihau, tra, mewn gwirionedd, mae’r gwrthwyneb wedi digwydd. Maent wedi diswyddo gormod o swyddogion carchar, sydd wedi golygu bod yn rhaid i’r rhai sydd ar ôl deithio ledled y DU i weithio mewn carchardai lle maent yn daer brin o swyddogion (mae rhai yn byw mewn gwestai yn Llundain); mae hyn i gyd yn golygu costau mawr i’r trethdalwr. Mae diswyddo swyddogion carchar wedi costio £50 miliwn, dim ond i geisio eu recriwtio yn ôl o fewn misoedd. Mae prinder staff yn bryder aruthrol i Gymdeithas y Swyddogion Carchar. Mae cyfraddau hunanladdiad wedi cynyddu’n sylweddol, sy’n cael effaith enfawr ar staff a’u teuluoedd. Mae marwolaeth carcharor yn y ddalfa wedi dod yn ddigwyddiad dyddiol. Ni all aelodau o Gymdeithas y Swyddogion Carchar adael eu gwaith wrth giât y carchar; mae marwolaeth carcharor yn eu dilyn adref. Mae Swyddogion Carchar yn gorfod teithio ledled y DU i weithio mewn carchardai lle maent yn daer brin o swyddogion.

 

Disgrifiodd John gynnydd mewn trais yn y carchar. Gan fyfyrio ar ei 27 mlynedd o brofiad o fod yn swyddog carchar, dywedodd y byddech yn y gorffennol yn disgwyl atal carcharorion rhag ymladd dim ond yn achlysurol, ond erbyn hyn mae’n mynd yn ddigwyddiad rhy rheolaidd, sy’n peri pryder difrifol. Dywedodd nid yn unig bod ymosodiadau treisgar rhwng carcharorion ar gynnydd, ond bod ymosodiadau ar swyddogion carchar hefyd wedi cynyddu. Roedd John yn teimlo bod yr ymosodiadau hyn yn gysylltiedig â gorlenwi a’r cynnydd mewn cyffuriau penfeddwol cyfreithlon fel Spice - mae cyffuriau o’r fath yn anodd i’w canfod. Mae hyn i gyd, ynghyd â phrinder staff difrifol, yn golygu nad yw celloedd yn cael eu chwilio yn ddyddiol a bod post ddim yn cael ei wirio ychwaith, er enghraifft.

 

Dywedodd John ei fod yn falch iawn o glywed y bydd y carchar newydd yng Nghymru yn cael ei redeg gan y sector cyhoeddus. Mae’n teimlo bod hyn yn fuddugoliaeth i Gymdeithas y Swyddogion Carchar a Llywodraeth Cymru. Serch hynny, bydd 35% o wasanaethau yn cael eu hallanoli, gan gynnwys addysg, anghenion meddygol a chynnal y carchar.

 

Fodd bynnag, dywedodd fod gan Gymdeithas y Swyddogion Carchar bryderon ynghylch maint y carchar oherwydd nid yw’n credu bod ‘carchar Titan’ yn effeithiol. Fe’i disgrifiodd fel tir bridio posibl ar gyfer pob math o broblemau. Bydd Cymdeithas y Swyddogion Carchar yn brwydro i sicrhau bod y carchar yn cael ei staffio’n briodol gyda chymysgedd o staff profiadol a newydd. Dywedodd fod Carchar ISIS yn cael ei redeg yn wael iawn oherwydd nad oes unrhyw staff profiadol yn gweithio yno.

 

Dywedodd John ei fod wedi cyfarfod ag aelodau yng Ngharchar Abertawe, Carchar Caerdydd a Charchar Brynbuga a Phrescoed, sydd i gyd yn pryderu y bydd swyddi yn cael eu colli o bosibl oherwydd y carchar newydd ac ehangu Carchar Parc. Nododd ei fod wedi cael sicrwydd gan y rheolwr ardal yn Ne Cymru nad oes unrhyw gynlluniau i gau unrhyw un o’r carchardai yn ne Cymru. Dywedodd ei fod yn obeithiol bod y Llywodraeth wedi dysgu o’i chamgymeriadau o ran cau carchardai.

 

Eglurodd Mike Hedges fod llawer o’i etholwyr yn gweithio yng Ngharchar Abertawe. Mynegodd bryderon ynghylch y mater o orlenwi, gan ddweud nad yw’n briodol i symud staff o amgylch y DU oherwydd nad ydynt yn cael cyfle i ffurfio perthynas broffesiynol gyda’r carcharorion. Rhoddodd John wybod i’r grŵp fod y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yn defnyddio staff asiantaeth yn gynyddol i lenwi’r bylchau, rhywbeth sydd, yn y tymor byr, yn gadarnhaol o ran ei aelodau oherwydd bod hyn yn cynnig ateb i broblem yn syth. Fodd bynnag, mae’n ateb llai na delfrydol.

 

Gofynnodd Leanne Wood dau gwestiwn; yn gyntaf, gofynnodd am garcharorion benywaidd yn benodol, gan nad oes gennym garchar i fenywod yng Nghymru; yn ail, gofynnodd a yw preifateiddio’r gwasanaeth prawf wedi cael effaith ar garchardai. Cytunodd John fod yna bryderon ynghylch diffyg darpariaeth ar gyfer troseddwyr benywaidd yng Nghymru. Dywedodd ei fod wedi siarad â NAPO, a bod y ddau undeb yn teimlo bod llawer o gyfleoedd posibl ar gyfer gweithio ar y cyd. Fodd bynnag, o ran preifateiddio’r gwasanaeth prawf, nid ydym wedi teimlo’r effaith eto, ond, yn ei farn ef, byddwn yn dechrau teimlo’r effaith yn y man. Cyfeiriodd at y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr newydd sydd wedi cyflwyno deddfwriaeth ‘drwy’r giât’, a dywedodd na fydd hyn yn gweithio. Dywedodd y dylai’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr ganolbwyntio ar leihau nifer y carcharorion benywaidd, ac roedd Leanne yn cytuno’n llwyr gyda hyn.

 

Dywedodd Tracey Worth fod aelodau NAPO wedi mynegi pryder ynghylch faint o weithiau y mae carcharorion wedi gweld swyddogion gwahanol yn y 12 mis diwethaf. Mae rhai pobl sydd dan glo yn yr hirdymor ar eu colled oherwydd y newidiadau i’r gwasanaeth sy’n cael effaith ar barôl ac ati. Nododd John eu bod hefyd wedi cael gwared ar y swyddog personol yn y ddalfa, sy’n ei gwneud yn anodd i garcharorion gael gafael ar wybodaeth allweddol am eu dedfryd.

 

Gwnaeth Aled Roberts adlewyrchu ar sylwadau cynharach John ar y gwersi sy’n cael eu dysgu. Eglurodd fod yna fforwm y mae’n ymwneud ag ef sy’n trafod y carchar newydd yn Wrecsam, a gofynnodd a fyddai modd i Gymdeithas y Swyddogion Carchar gymryd rhan yn y drafodaeth honno. Esboniodd John y bydd Cymdeithas y Swyddogion Carchar yn cyflwyno ‘rhestr o ddymuniadau’ i’r Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr ac y byddent yn dymuno cymryd rhan yn nhrafodaethau’r grŵp os gallant.

 

Gofynnodd Julie Morgan am yr hyn y gellir ei wneud i leihau peryglon carchar ‘Titan’. Dywedodd John fod angen edrych ar ddiogelwch, ond, unwaith eto, pwysleisiodd y ffaith bod Cymdeithas y Swyddogion Carchar yn erbyn carchardai ‘Titan’. Nododd Vicki Evans, aelod o staff cymorth i Aelod Cynulliad, fod Christine Chapman yn cadeirio grŵp ar Fenywod yn y Carchar sy’n cyfarfod am 12.30pm ar 10 Mawrth, a dywedodd fod croeso i bawb fynd i’r cyfarfod hwnnw.

 

Rhoddodd Aled Roberts wybod i’r grŵp fod cynllun peilot yn cael ei gynnal yng ngogledd Cymru sy’n canolbwyntio ar droseddwyr benywaidd. Dywedodd Julie Morgan ni ddylwn gael carchar i fenywod yng Nghymru. Nododd Jane Foulner fod yna ddiffyg darpariaeth ar gyfer carcharorion benywaidd, gan egluro nad oes unrhyw safleoedd cymeradwy neu hosteli mechnïaeth benodol i fenywod. Aeth Jane ymlaen i ddweud ei bod yn anodd ailsefydlu menywod yn agos at eu cartrefi.

 

Cyfeiriodd Emily Cannon at y ‘storm berffaith’ y mae Grayling wedi ei chreu yn y sector cyfiawnder troseddol a gofynnodd beth all y grŵp hwn ei wneud. Dywedodd John fod y grŵp yn hanfodol ar gyfer cydweithio ar faterion fel y carchar ‘Titan’.

 

Nododd Robert Jones fod seminar ar Fenywod yn y Carchar yn cael ei gynnal yn Nhŷ Hywel ar 22 Ebrill. Dywedodd fod nifer y menywod mewn carchardai wedi cynyddu ond bod nifer y troseddau y maent yn eu cyflawni wedi lleihau. Hefyd, rhoddodd Robert wybod i’r grŵp fod dogfen gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ddiweddar yn awgrymu y gallai un carchar yng Nghymru gael ei gau. Cyfeiriodd hefyd at yr araith ddiweddar gan Stephen Crabb a oedd yn awgrymu nad oes consensws ar ddatganoli yng Nghymru. Nododd John y bydd y carchar ‘Titan’ yn bennaf ar gyfer carcharorion o Loegr. Gofynnodd Robert yn benodol am Wrecsam ac a fydd y carchar newydd hwn yn creu swyddi. Dywedodd John ei fod yn amau ​​y byddant yn trosglwyddo swyddogion carchar o garchardai yn y gogledd. Dywedodd John fod Cymdeithas y Swyddogion Carchar yn credu y dylai cyfiawnder troseddol gael ei ddatganoli.

 

Dywedodd Tracey Worth fod pob undeb yn yr ystafell yn cydymdeimlo â Chymdeithas y Swyddogion Carchar ac ni allai hyd yn oed ddechrau dychmygu pa mor ofnadwy yw hi i staff orfod gweithio o dan amgylchiadau anodd o’r fath. Llongyfarchodd Gymdeithas y Swyddogion Carchar ar eu hymgyrch, gan grybwyll yr ymchwiliadau diweddar a gynhaliwyd gan Channel 4 News yn benodol. Fodd bynnag, mynegodd ei siom nad oedd y cyfryngau prif ffrwd yn ymddangos bod ganddynt ddiddordeb yn y mater hwn. Gofynnodd ai’r rheswm am hyn yw bod cymdeithas yn ystyried carcharorion yn ddinasyddion eilradd a bod y ffordd yr ymdrinir â hwy yn y ddalfa ddim yn bwysig. Roedd John yn teimlo bod y cyfryngau ond yn dangos diddordeb os oes terfysg ar raddfa fawr neu streic. Trafododd y grŵp ddiffyg diddordeb cyffredinol gan y cyfryngau, ac awgrymodd Robert Jones y dylid cysylltu â chyfryngau Cymru oherwydd y gallant fod â diddordeb yn y mater hwn.

 

Camau Gweithredu

 

·         Ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yn amlinellu pryderon y grŵp am y diffyg safleoedd cymeradwy a darpariaeth hostel mechnïaeth i droseddwyr benywaidd yng Nghymru. Bydd copi o’r llythyr hwn yn cael ei anfon at Lesley Griffiths, yr Aelod Cynulliad sy’n gyfrifol am faterion yn effeithio ar fenywod.

·         Ysgrifennu at Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i nodi’r cynnydd mewn hunanladdiadau ymhlith carcharorion yng Nghymru.

·         Sefydlu cysylltiadau gyda newyddiadurwyr yng Nghymru i hyrwyddo gwaith y Grŵp Cyfiawnder Trawsbleidiol.

·         Cysylltu ag Aled Roberts, yr Aelod Cynulliad Rhanbarthol dros Ogledd Cymru, i egluro pwrpas y panel y cyfeiriodd ato yn ystod y cyfarfod.

·         Ysgrifennu at Stephen Crabb, yr Aelod Seneddol dros Sir Benfro, i drafod ei araith ddiweddar ar ddatganoli yng Nghymru.

 

 

Paratowyd y cofnodion gan Tracey Worth, NAPO Cymru.